15 Tyngais wrthynt yn yr anialwch na fyddwn yn dod â hwy i'r wlad a roddais iddynt, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, y decaf o'r holl wledydd,
16 oherwydd iddynt wrthod fy marnau a pheidio â chadw fy neddfau, ond halogi fy Sabothau, am fod eu calon yn dilyn eu heilunod.
17 Eto edrychais mewn tosturi arnynt, rhag eu dinistrio, ac ni roddais ddiwedd arnynt yn yr anialwch.
18 Dywedais wrth eu plant yn yr anialwch, “Peidiwch â dilyn deddfau eich rhieni, na chadw eu barnau, na halogi eich hunain â'u heilunod.
19 Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw; dilynwch fy neddfau a gwylio eich bod yn cadw fy marnau.
20 Cadwch fy Sabothau'n sanctaidd, iddynt fod yn arwydd rhyngom, a chewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.”
21 “ ‘Ond gwrthryfelodd eu plant yn fy erbyn. Nid oeddent yn dilyn fy neddfau, nac yn cadw fy marnau—er mai'r sawl a'u gwna a fydd byw—ac yr oeddent yn halogi fy Sabothau. Yna bwriadwn dywallt fy llid a dod â'm dicter arnynt yn yr anialwch.