30 “Am hynny, dywed wrth dŷ Israel, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: A ydych yn eich halogi eich hunain fel y gwnaeth eich hynafiaid, a phuteinio gyda'u heilunod atgas?
31 Pan gyflwynwch eich rhoddion, a gwneud i'ch plant fynd trwy'r tân, yr ydych yn eich halogi eich hunain â'ch holl eilunod hyd heddiw. Sut y gadawaf i chwi ymofyn â mi, dŷ Israel? Cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, ni adawaf i chwi ymofyn â mi.
32 “ ‘Yr ydych yn dweud, “Byddwn fel y cenhedloedd, fel pobloedd y gwledydd, yn addoli pren a charreg”; ond yn sicr ni ddigwydd yr hyn sydd yn eich meddwl.
33 Cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, llywodraethaf drosoch â llaw gref, â braich estynedig ac â llid tywalltedig.
34 Dof â chwi o blith y cenhedloedd, a'ch casglu o'r gwledydd lle gwasgarwyd chwi, â llaw gref, â braich estynedig ac â llid tywalltedig.
35 Dof â chwi i anialwch y cenhedloedd a'ch barnu yno wyneb yn wyneb.
36 Fel y bernais eich hynafiaid yn anialwch gwlad yr Aifft, felly y barnaf chwithau, medd yr Arglwydd DDUW.