38 Fe garthaf o'ch plith y rhai sy'n gwrthryfela ac yn codi yn f'erbyn; er imi ddod â hwy o'r wlad lle maent yn aros, eto nid ânt i dir Israel. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’
39 “A chwithau, dŷ Israel, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Aed pob un ohonoch i addoli ei eilunod. Yna byddwch yn siŵr o wrando arnaf fi, ac ni fyddwch yn halogi fy enw sanctaidd â'ch rhoddion ac â'ch eilunod.
40 Oherwydd ar fy mynydd sanctaidd, ar fynydd uchel Israel, medd yr Arglwydd DDUW, y bydd holl dŷ Israel, a phob un sydd yn y wlad, yn fy addoli, ac yno y derbyniaf hwy. Yno y ceisiaf eich aberthau a'ch offrymau gorau, ynghyd â'ch holl aberthau sanctaidd.
41 Fe'ch derbyniaf chwi fel arogldarth peraidd, pan ddof â chwi allan o blith y cenhedloedd, a'ch casglu o'r gwledydd lle gwasgarwyd chwi, a sancteiddiaf fy hun ynoch chwi yng ngŵydd y cenhedloedd.
42 Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan ddof â chwi i dir Israel, y wlad y tyngais y byddwn yn ei rhoi i'ch hynafiaid.
43 Yno byddwch yn cofio eich ffyrdd, a'r holl bethau a wnaethoch i'ch halogi eich hunain, a byddwch yn eich casáu eich hunain am yr holl ddrygioni a wnaethoch.
44 Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan fyddaf yn ymwneud â chwi er mwyn fy enw, ac nid yn ôl eich ffyrdd drygionus a'ch gweithredoedd llygredig, O dŷ Israel, medd yr Arglwydd DDUW.”