5 a dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yn y dydd y dewisais Israel, tyngais wrth ddisgynyddion tylwyth Jacob, a datguddiais fy hun iddynt yng ngwlad yr Aifft; tyngais wrthynt a dweud, “Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.”
6 Y diwrnod hwnnw tyngais wrthynt y byddwn yn dod â hwy allan o wlad yr Aifft i'r wlad a geisiais iddynt, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, y decaf o'r holl wledydd.
7 Dywedais wrthynt, “Pob un ohonoch, bwriwch ymaith y pethau atgas y mae eich llygaid yn syllu arnynt, a pheidiwch â'ch halogi eich hunain ag eilunod yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.”
8 “ ‘Ond bu iddynt wrthryfela yn f'erbyn a gwrthod gwrando arnaf; ni wnaeth yr un ohonynt fwrw ymaith y pethau atgas yr oedd eu llygaid yn syllu arnynt, na gadael eilunod yr Aifft. Bwriadwn dywallt fy llid a dod â'm dicter arnynt yng ngwlad yr Aifft;
9 eto gweithredais er mwyn fy enw rhag ei halogi yng ngolwg y cenhedloedd yr oeddent yn eu mysg, a datguddiais fy hun yn eu gŵydd trwy fynd ag Israel allan o wlad yr Aifft.
10 Felly euthum â hwy allan o wlad yr Aifft a mynd â hwy i'r anialwch.
11 Rhoddais iddynt fy neddfau, a pheri iddynt wybod fy marnau; pwy bynnag a'u gwna, bydd fyw trwyddynt.