1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2 “Fab dyn, tro dy wyneb tua Jerwsalem, a llefara yn erbyn ei chysegr a phroffwyda yn erbyn tir Israel.
3 Dywed wrth dir Israel, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf fi yn dy erbyn; tynnaf fy nghleddyf o'i wain a thorri ymaith ohonot y cyfiawn a'r drygionus.
4 Oherwydd fy mod am dorri ymaith ohonot y cyfiawn a'r drygionus y tynnir fy nghleddyf o'i wain yn erbyn pawb o'r de i'r gogledd.
5 Yna bydd pob un yn gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi tynnu fy nghleddyf o'i wain; ni fydd yn dychwelyd yno byth eto.’
6 Ac yn awr, fab dyn, griddfan; griddfan yn chwerw o'u blaenau â chalon ddrylliedig.