12 Gwaedda ac uda, fab dyn,oherwydd y mae yn erbyn fy mhobl,yn erbyn holl dywysogion Israel—fe'u bwrir hwythau i'r cleddyf gyda'm pobl;felly trawa dy glun.
13 Oherwydd bydd profi. Pam yr ydych yn dilorni'r wialen? Ni lwydda, medd yr Arglwydd DDUW.
14 “Ac yn awr, fab dyn, proffwyda,a thrawa dy ddwylo yn erbyn ei gilydd;chwifier y cleddyf ddwywaith a thair—cleddyf i ladd ydyw,cleddyf i wneud lladdfa fawr,ac y mae'n chwyrlïo o'u hamgylch.
15 Er mwyn i'w calon doddi,ac i lawer ohonynt syrthio,yr wyf wedi gosod cleddyf dinistrwrth eu holl byrth.Och! Fe'i gwnaed i ddisgleirio fel mellten,ac fe'i tynnir i ladd.
16 Tro'n finiog i'r dde ac i'r chwith,i ble bynnag y pwyntia dy flaen.
17 Byddaf finnau hefyd yn taro fy nwylo,ac yna'n tawelu fy llid.Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd.”
18 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,