4 Oherwydd fy mod am dorri ymaith ohonot y cyfiawn a'r drygionus y tynnir fy nghleddyf o'i wain yn erbyn pawb o'r de i'r gogledd.
5 Yna bydd pob un yn gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi tynnu fy nghleddyf o'i wain; ni fydd yn dychwelyd yno byth eto.’
6 Ac yn awr, fab dyn, griddfan; griddfan yn chwerw o'u blaenau â chalon ddrylliedig.
7 A phan ofynnant iti pam dy fod yn griddfan, fe ddywedi, ‘Oherwydd y newyddion; pan ddaw, bydd pob calon yn toddi, pob llaw yn llipa, pob ysbryd yn pallu a phob glin yn ddŵr. Fe ddigwydd, ac y mae ar ddyfod, medd yr Arglwydd DDUW.’ ”
8 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
9 “Fab dyn, proffwyda a dweud, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:Cleddyf! Cleddyf wedi ei hogi,a hefyd wedi ei loywi—
10 wedi ei hogi er mwyn lladd,a'i loywi i fflachio fel mellten!O fy mab, fe chwifir gwialeni ddilorni pob eilun pren!