8 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
9 “Fab dyn, proffwyda a dweud, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:Cleddyf! Cleddyf wedi ei hogi,a hefyd wedi ei loywi—
10 wedi ei hogi er mwyn lladd,a'i loywi i fflachio fel mellten!O fy mab, fe chwifir gwialeni ddilorni pob eilun pren!
11 Rhoddwyd y cleddyf i'w loywi,yn barod i law ymaflyd ynddo;y mae'r cleddyf wedi ei hogi a'i loywi,yn barod i'w roi yn llaw y lladdwr.’
12 Gwaedda ac uda, fab dyn,oherwydd y mae yn erbyn fy mhobl,yn erbyn holl dywysogion Israel—fe'u bwrir hwythau i'r cleddyf gyda'm pobl;felly trawa dy glun.
13 Oherwydd bydd profi. Pam yr ydych yn dilorni'r wialen? Ni lwydda, medd yr Arglwydd DDUW.
14 “Ac yn awr, fab dyn, proffwyda,a thrawa dy ddwylo yn erbyn ei gilydd;chwifier y cleddyf ddwywaith a thair—cleddyf i ladd ydyw,cleddyf i wneud lladdfa fawr,ac y mae'n chwyrlïo o'u hamgylch.