10 Bu iddynt hwythau ei dinoethi, cymryd ei meibion a'i merched, a'i lladd hithau â'r cleddyf. Daeth yn enwog ymysg gwragedd, a rhoddwyd barn arni.
11 “Er i'w chwaer Oholiba weld hyn, eto aeth yn fwy llwgr na'i chwaer yn ei chwant a'i phuteindra.
12 Chwantodd hithau'r Asyriaid, yn llywodraethwyr a chadfridogion, yn swyddogion mewn lifrai glas a marchogion ar geffylau—gwŷr ifainc dymunol, pob un ohonynt.
13 Gwelais hithau hefyd yn ei halogi ei hun; yr un ffordd yr âi'r ddwy.
14 Ond fe wnaeth hi fwy o buteindra. Gwelodd ddynion wedi eu darlunio ar bared—lluniau o'r Caldeaid, wedi eu lliwio mewn coch,
15 yn gwisgo gwregys am eu canol a thwrbanau llaes am eu pennau, a phob un ohonynt yn ymddangos fel swyddog ac yn edrych yn debyg i'r Babiloniaid, brodorion gwlad Caldea.
16 Pan welodd hwy, fe'u chwantodd ac anfon negeswyr amdanynt i Caldea.