20 Yno yr oedd yn chwantu ei chariadon, a oedd â'u haelodau fel rhai asynnod ac yn bwrw eu had fel stalwyni.
21 Felly yr oeddit yn ail-fyw anlladrwydd dy ieuenctid, pan wasgwyd dy dethau a chwarae â'th fronnau ifainc yn yr Aifft.
22 “Felly, Oholiba, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Yr wyf am gyffroi yn dy erbyn dy gariadon, y troist mewn atgasedd oddi wrthynt; dof â hwy yn dy erbyn o bob tu—
23 y Babiloniaid a'r holl Galdeaid, gwŷr Pecod, Soa a Coa, a'r holl Asyriaid, gwŷr ifainc dymunol pob un ohonynt, i gyd yn llywodraethwyr a chadfridogion, yn benaethiaid a swyddogion ac yn marchogaeth ar geffylau.
24 Dônt yn dy erbyn o'r gogledd, â cherbydau, wageni a mintai o bobl, ac fe safant yn dy erbyn o bob tu gyda bwcled a tharian a chyda helmedau; rhof iddynt hawl i gosbi, ac fe'th gosbant yn ôl eu dedfryd eu hunain.
25 Trof f'eiddigedd yn dy erbyn, ac fe weithredant fy llid arnat; torrant ymaith dy drwyn a'th glustiau, a bydd y rhai a adewir ohonot yn syrthio trwy'r cleddyf; cymerant dy feibion a'th ferched, ac fe losgir y rhai a adewir â thân.
26 Tynnant dy ddillad oddi amdanat, a chymerant hefyd dy dlysau prydferth.