23 Byddwch yn cadw gorchudd am eich pennau a sandalau am eich traed, heb alaru nac wylo. Ond byddwch yn dihoeni oherwydd eich camweddau ac yn ochneidio wrth eich gilydd.
24 Bydd Eseciel yn arwydd i chwi, ac fe wnewch fel y gwnaeth ef; pan ddigwydd hyn, byddwch yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW.”
25 “ ‘Ac yn awr, fab dyn, ar y dydd pan gymeraf ymaith y gaer yr oeddent yn ymfalchïo yn ei gogoniant ac a oedd mor ddymunol a hoff yn eu golwg, a phan gymeraf eu meibion a'u merched,
26 ar y dydd hwnnw fe ddaw atat ffoadur i ddweud y newydd.
27 Y diwrnod hwnnw fe agorir dy enau; fe siaredi â'r ffoadur ac ni fyddi'n fud mwyach. Byddi'n arwydd iddynt, a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”