3 am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Yr wyf yn dy erbyn, O Tyrus, ac fe ddygaf lawer o genhedloedd yn dy erbyn, fel môr yn dygyfor.
4 Fe fyddant yn dinistrio muriau Tyrus ac yn bwrw i lawr ei thyrau; crafaf y pridd ohoni a'i gwneud yn graig noeth.
5 Bydd yn lle i daenu rhwydau allan yng nghanol y môr, oherwydd myfi a lefarodd,’ medd yr Arglwydd DDUW. ‘Bydd yn anrhaith i'r cenhedloedd,
6 ac fe ddinistrir ei maestrefi trwy'r cleddyf; yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’
7 “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Fe ddof â Nebuchadnesar brenin Babilon, brenin y brenhinoedd, yn erbyn Tyrus o'r gogledd gyda meirch a cherbydau, gyda marchogion a mintai fawr yn fyddin.
8 Bydd yn dinistrio dy faestrefi trwy'r cleddyf, yn gosod gwarchae arnat, yn codi esgynfa tuag atat, ac yn gosod tarianau yn dy erbyn.
9 Fe dry ei beiriannau hyrddio yn erbyn dy furiau, a dymchwel dy dyrau â'i arfau.