7 “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Fe ddof â Nebuchadnesar brenin Babilon, brenin y brenhinoedd, yn erbyn Tyrus o'r gogledd gyda meirch a cherbydau, gyda marchogion a mintai fawr yn fyddin.
8 Bydd yn dinistrio dy faestrefi trwy'r cleddyf, yn gosod gwarchae arnat, yn codi esgynfa tuag atat, ac yn gosod tarianau yn dy erbyn.
9 Fe dry ei beiriannau hyrddio yn erbyn dy furiau, a dymchwel dy dyrau â'i arfau.
10 Bydd ei feirch mor niferus nes dy orchuddio â llwch; bydd dy furiau'n crynu gan sŵn y meirch, y wageni a'r cerbydau, wrth iddo ddod i mewn trwy'r pyrth fel un yn dod i ddinas wedi ei bylchu.
11 Bydd carnau ei feirch yn sathru dy strydoedd i gyd; fe leddir dy bobl â'r cleddyf, ac fe syrth dy golofnau cedyrn i'r llawr.
12 Anrheithiant dy gyfoeth a chymryd dy nwyddau'n ysbail; dymchwelant dy furiau a chwalu dy dai dymunol, a lluchio'r meini, y coed a'r pridd i ganol y môr.
13 Rhof ddiwedd ar sŵn dy ganiadau, ac ni chlywir sain dy delynau mwyach.