11 Yr oedd gwŷr Arfad a Helech ar dy furiau o amgylch,a gwŷr Gammad yn dy dyrau;yr oeddent yn crogi eu tarianau ar dy furiau,ac yn gwneud dy brydferthwch yn berffaith.
12 “ ‘Yr oedd Tarsis yn marchnata gyda thi oherwydd dy holl gyfoeth, ac yn rhoi iti arian, haearn, alcam a phlwm yn gyfnewid am dy nwyddau.
13 Jafan, Tubal a Mesech oedd dy farsiandïwyr, ac yn cyfnewid caethweision a llestri pres yn dy farchnad.
14 Yr oedd rhai o Beth-togarma yn cyfnewid ceffylau, meirch a mulod am dy nwyddau.
15 Yr oedd gwŷr Rhodos yn farsiandïwyr i ti, ac ynysoedd lawer yn marchnata gyda thi, ac yn rhoi'n dâl iti gyrn ifori ac eboni.
16 Yr oedd Aram yn marchnata gyda thi am fod gennyt ddigon o nwyddau, ac yn rhoi glasfeini, porffor, brodwaith, lliain, cwrel a gemau yn gyfnewid am dy nwyddau.
17 Yr oedd Jwda a gwlad Israel hefyd ymhlith dy farsiandïwyr, ac yn cyfnewid gwenith o Minnith, ŷd, mêl, olew a balm yn dy farchnad.