27 “ ‘Bydd dy gyfoeth, dy nwyddau, dy fasnach, dy forwyr, dy longwyr, dy seiri llongau, dy farchnatawyr, dy holl filwyr, a phawb arall sydd ar dy fwrdd yn suddo yng nghanol y môr y diwrnod y dryllir di.
28 “ ‘Pan glywir cri dy longwyr,bydd yr arfordir yn crynu.
29 Bydd yr holl rwyfwyr yn gadael eu llongau,a'r morwyr a'r llongwyr yn sefyll ar y lan,
30 yn gweiddi'n uchel ac yn wylo'n chwerw amdanat,yn rhoi llwch ar eu pennau ac yn ymdrybaeddu mewn lludw.
31 Eilliant eu pennau o'th achos, a gwisgo sachliain;wylant yn chwerw amdanat mewn galar trist.
32 Yn eu cwynfan a'u galar codant alarnad amdanat:“Pwy erioed a dawelwyd fel Tyrus yn nghanol y môr?
33 Pan âi dy nwyddau allan ar y moroedd,yr oeddit yn diwallu llawer o genhedloedd;trwy dy gyfoeth mawr a'th nwyddaugwnaethost frenhinoedd y ddaear yn gyfoethog.