1 Yna dywedodd wrthyf, “Fab dyn, bwyta'r hyn sydd o'th flaen; bwyta'r sgrôl hon, a dos a llefara wrth dŷ Israel.”
2 Agorais fy ngheg, a rhoddodd imi'r sgrôl i'w bwyta,
3 a dweud wrthyf, “Fab dyn, bwyda dy hun a llanw dy fol â'r sgrôl hon yr wyf yn ei rhoi iti.” Bwyteais, ac yr oedd cyn felysed â mêl yn fy ngenau.
4 Dywedodd wrthyf, “Fab dyn, dos yn awr at dŷ Israel a llefara fy ngeiriau wrthynt.
5 Nid at bobl ddieithr eu hiaith ac anodd eu lleferydd y'th anfonir, ond at dŷ Israel.