20 Os bydd un cyfiawn yn troi oddi wrth gyfiawnder ac yn gwneud drwg, a minnau wedi rhoi rhwystr o'i flaen, bydd farw; am na rybuddiaist ef, bydd farw am ei gamwedd, ac ni chofir y pethau cyfiawn a wnaeth; ond byddaf yn dy ddal di yn gyfrifol am ei waed.
21 Ond os byddi wedi rhybuddio'r cyfiawn rhag pechu, ac yntau'n peidio â phechu, yn sicr fe gaiff fyw am iddo gymryd ei rybuddio, a byddi dithau wedi dy arbed dy hunan.”
22 Daeth llaw yr ARGLWYDD arnaf yno, a dywedodd wrthyf, “Cod a dos i'r gwastadedd, ac fe lefaraf wrthyt yno.”
23 Codais a mynd i'r gwastadedd, ac yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn sefyll yno, yn union fel y gogoniant a welais wrth afon Chebar, a syrthiais ar fy wyneb.
24 Yna daeth yr ysbryd arnaf a'm codi ar fy nhraed, a llefarodd wrthyf gan ddweud, “Dos a chau arnat dy hun yn dy dŷ.
25 Fe roddir rhwymau amdanat ti, fab dyn, a'th glymu â hwy fel na elli fynd allan ymysg dy bobl.
26 Gwnaf i'th dafod lynu wrth daflod dy enau, a byddi'n fud, fel na elli eu ceryddu, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.