3 a dweud wrthyf, “Fab dyn, bwyda dy hun a llanw dy fol â'r sgrôl hon yr wyf yn ei rhoi iti.” Bwyteais, ac yr oedd cyn felysed â mêl yn fy ngenau.
4 Dywedodd wrthyf, “Fab dyn, dos yn awr at dŷ Israel a llefara fy ngeiriau wrthynt.
5 Nid at bobl ddieithr eu hiaith ac anodd eu lleferydd y'th anfonir, ond at dŷ Israel.
6 Na, nid at lawer o bobl ddieithr eu hiaith ac anodd eu lleferydd, a thithau heb ddeall eu geiriau; yn wir, pe bawn wedi dy anfon atynt hwy, byddent yn gwrando arnat.
7 Ond nid yw tŷ Israel yn fodlon gwrando arnat, am nad ydynt yn fodlon gwrando arnaf fi, oherwydd y mae tŷ Israel i gyd yn wynebgaled ac yn ystyfnig.
8 Yn awr, fe'th wnaf mor wynebgaled ac ystyfnig â hwythau.
9 Gwnaf dy dalcen fel diemwnt, yn galetach na challestr; paid â'u hofni nac arswydo rhag eu hwynebau, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.”