9 Gwnaf dy dalcen fel diemwnt, yn galetach na challestr; paid â'u hofni nac arswydo rhag eu hwynebau, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.”
10 Yna dywedodd wrthyf, “Fab dyn, gwrando ar yr holl eiriau yr wyf yn eu llefaru wrthyt, a derbyn hwy i'th galon.
11 Dos yn awr at dy bobl sydd yn y gaethglud, a llefara wrthynt a dweud, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW’, p'run bynnag a wrandawant ai peidio.”
12 Cododd yr ysbryd fi, a chlywais o'r tu ôl imi sŵn tymestl fawr: “Bendigedig yw gogoniant yr ARGLWYDD yn ei le.”
13 Clywais sŵn adenydd y creaduriaid yn cyffwrdd â'i gilydd, a sŵn yr olwynion wrth eu hochr, a sain tymestl fawr.
14 Cododd yr ysbryd fi a'm cario ymaith; ac yr oeddwn yn mynd yn chwerw yng ngwres fy ysbryd, a llaw yr ARGLWYDD yn drwm arnaf.
15 Deuthum i Tel-abib at y caethgludion oedd wedi ymsefydlu wrth afon Chebar, ac aros lle'r oeddent hwy yn byw; arhosais yno yn eu mysg wedi fy syfrdanu am saith diwrnod.