12 Sychaf yr afonydd hefyd, a gwerthu'r wlad i rai drwg; trwy ddwylo estroniaid anrheithiaf y wlad a phopeth sydd ynddi. Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd.
13 “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dinistriaf yr eilunod a rhof ddiwedd ar y delwau sydd yn Noff; ni fydd tywysog yng ngwlad yr Aifft mwyach, a pharaf fod ofn trwy'r wlad.
14 Anrheithiaf Pathros, a rhof dân ar Soan, a gweithredu barn ar Thebes.
15 Tywalltaf fy llid ar Sin, cadarnle'r Aifft, a thorri ymaith finteioedd Thebes.
16 Rhof dân ar yr Aifft, a bydd Sin mewn gwewyr mawr; rhwygir Thebes a bydd Noff mewn cyfyngder yn ddyddiol.
17 Fe syrth gwŷr ifainc On a Pibeseth trwy'r cleddyf, a dygir y merched i gaethglud.
18 Bydd y dydd yn dywyllwch yn Tahpanhes, pan dorraf yno iau yr Aifft a dod â'i grym balch i ben; fe'i gorchuddir â chwmwl, a dygir ei merched i gaethglud.