Eseciel 31:12-18 BCN

12 Estroniaid, y greulonaf o'r cenhedloedd, a'i torrodd i lawr a'i gadael. Syrthiodd ei changhennau ar y mynyddoedd ac i'r holl ddyffrynnoedd; yr oedd ei changau wedi eu torri yn holl gilfachau'r tir; daeth holl genhedloedd y ddaear allan o'i chysgod a'i gadael.

13 Aeth holl adar y nefoedd i fyw ar ei boncyff, a'r holl anifeiliaid gwylltion i'w brigau.

14 Oherwydd hyn, nid yw'r holl goed eraill wrth y dyfroedd i dyfu'n uchel na chodi eu pennau'n uwch na'r cangau; nid ydynt, oherwydd bod digon o ddŵr, i sefyll mor uchel; y maent i gyd wedi eu tynghedu i farwolaeth yn y tir isod, gyda meidrolion, ymhlith y rhai sy'n disgyn i'r pwll.

15 “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yn y dydd yr aed â hi i lawr i Sheol, gorchuddiais y dyfnder â galar drosti; ateliais ei hafonydd a dal yn ôl ei digonedd o ddŵr. O'i herwydd hi gwisgais Lebanon â phrudd-der, a chrinodd holl goed y maes.

16 Gwneuthum i'r cenhedloedd grynu gan sŵn ei chwymp, pan ddygais hi i lawr i Sheol gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll; felly cysurir yn y tir isod holl goed Eden sy'n cael eu dyfrhau, y rhai gorau a mwyaf dewisol yn Lebanon.

17 Aethant hwythau hefyd gyda hi i lawr i Sheol at y rhai a laddwyd â'r cleddyf; gwasgarwyd y rhai oedd yn byw yn ei chysgod ymhlith y cenhedloedd.

18 Prun o goed Eden sy'n debyg i ti mewn gogoniant a mawredd? Ond fe'th ddygir dithau hefyd gyda choed Eden i'r tir isod, a byddi'n gorwedd gyda'r dienwaededig a laddwyd â'r cleddyf. Dyna Pharo a'i holl finteioedd,’ medd yr Arglwydd DDUW.”