12 Fel y mae bugail yn gofalu am ei braidd gwasgaredig pan fydd yn eu mysg, felly y byddaf finnau'n gofalu am fy mhraidd; byddaf yn eu gwaredu o'r holl fannau lle gwasgarwyd hwy ar ddydd cymylau a thywyllwch.
13 Dygaf hwy allan o fysg y bobloedd, a'u casglu o'r gwledydd, a dod â hwy i'w gwlad eu hunain; bugeiliaf hwy ar fynyddoedd Israel, ger y nentydd ac yn holl fannau cyfannedd y wlad.
14 Gofalaf amdanynt mewn porfa dda, a bydd uchelfannau mynyddoedd Israel yn dir pori iddynt; yno byddant yn gorwedd ar dir pori da ac yn ymborthi ar borfa fras ar fynyddoedd Israel.
15 Byddaf fi fy hun yn bugeilio fy nefaid ac yn gwneud iddynt orwedd, medd yr Arglwydd DDUW.
16 Byddaf yn ceisio'r ddafad golledig ac yn dychwelyd y wasgaredig; byddaf yn rhwymo'r ddolurus ac yn cryfhau'r wan. Ond byddaf yn difa'r fras a'r gref; byddaf yn eu bugeilio â chyfiawnder.
17 “ ‘Amdanoch chwi, fy mhraidd, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele, byddaf fi'n barnu rhwng y naill ddafad a'r llall, a rhwng hyrddod a bychod.
18 Onid yw'n ddigon ichwi bori ar borfa dda heb ichwi sathru gweddill eich porfa â'ch traed, ac yfed dŵr clir heb ichwi faeddu'r gweddill â'ch traed?