28 Ni fyddant mwyach yn ysglyfaeth i'r cenhedloedd, ac ni fydd anifeiliaid gwylltion yn eu difa; byddant yn byw'n ddiogel heb neb i'w dychryn.
29 Byddaf yn darparu iddynt blanhigfa ffrwythlon, ac ni fyddant mwyach yn dioddef newyn yn y wlad na dirmyg y cenhedloedd.
30 Yna byddant yn gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD eu Duw, gyda hwy, ac mai hwy, tŷ Israel, yw fy mhobl, medd yr Arglwydd DDUW.
31 Chwi fy mhraidd, praidd fy mhorfa, yw fy mhobl, a myfi yw eich Duw, medd yr Arglwydd DDUW.’ ”