3 Yr ydych yn bwyta'r braster, yn gwisgo'r gwlân, yn lladd y pasgedig, ond nid ydych yn gofalu am y praidd.
4 Nid ydych wedi cryfhau'r ddafad wan na gwella'r glaf na rhwymo'r ddolurus; ni ddaethoch â'r grwydredig yn ôl, na chwilio am y golledig; buoch yn eu rheoli'n galed ac yn greulon.
5 Fe'u gwasgarwyd am eu bod heb fugail, ac yna aethant yn fwyd i'r holl anifeiliaid gwylltion.
6 Crwydrodd fy mhraidd dros yr holl fynyddoedd a bryniau uchel; aethant ar wasgar dros yr holl ddaear, ond nid oedd neb yn eu ceisio nac yn chwilio amdanynt.
7 “ ‘Felly, fugeiliaid, clywch air yr ARGLWYDD.
8 Cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, oherwydd i'r praidd fynd yn ysglyfaeth ac yn fwyd i'r holl anifeiliaid gwylltion, am nad oedd fugail, ac oherwydd i'm bugeiliaid beidio â chwilio am fy mhraidd ond gofalu amdanynt eu hunain yn hytrach nag am y praidd,
9 felly, fugeiliaid, clywch air yr ARGLWYDD.