16 yn ogystal â'r rhiniogau, y ffenestri bychain a'r orielau o amgylch y tri ohonynt, sef y cyfan o'r rhiniog ymlaen, wedi eu byrddio â choed; yr oedd y muriau o'r llawr at y ffenestri wedi eu byrddio.
17 Yn y lle uwchben y mynediad i'r cysegr nesaf i mewn, ar y tu allan, a hefyd ar y muriau o amgylch y cysegr mewnol a'r cysegr allanol,
18 yr oedd cerfiadau ar ffurf cerwbiaid a choed palmwydd, sef palmwydd a cherwbiaid bob yn ail. Yr oedd dau wyneb gan bob cerwb,
19 wyneb dyn at y balmwydden ar un ochr, a wyneb llew at y balmwydden ar yr ochr arall. Yr oeddent wedi eu cerfio o amgylch yr holl deml.
20 O'r llawr at y lle uwchben y drws, yr oedd cerwbiaid a phalmwydd wedi eu cerfio ar fur y deml.
21 Yr oedd pyst drws y deml yn sgwâr; ac o flaen y cysegr sancteiddiaf yr oedd rhywbeth tebyg
22 i allor o goed, tri chufydd o uchder a dau gufydd o hyd; yr oedd ei chornelau, ei sylfaen a'i hochrau o goed. Dywedodd y dyn wrthyf, “Dyma'r bwrdd sydd o flaen yr ARGLWYDD.”