20 O'r llawr at y lle uwchben y drws, yr oedd cerwbiaid a phalmwydd wedi eu cerfio ar fur y deml.
21 Yr oedd pyst drws y deml yn sgwâr; ac o flaen y cysegr sancteiddiaf yr oedd rhywbeth tebyg
22 i allor o goed, tri chufydd o uchder a dau gufydd o hyd; yr oedd ei chornelau, ei sylfaen a'i hochrau o goed. Dywedodd y dyn wrthyf, “Dyma'r bwrdd sydd o flaen yr ARGLWYDD.”
23 Yr oedd drysau dwbl i'r deml ac i'r cysegr sancteiddiaf;
24 yr oedd dwy ddalen i bob drws, a'r ddwy wedi eu bachu wrth ei gilydd.
25 Ar ddrysau'r deml yr oedd cerfiadau o gerwbiaid ac o balmwydd, fel ar y muriau, ac yr oedd cornis pren ar flaen y cyntedd o'r tu allan.
26 Ym muriau'r cyntedd yr oedd ffenestri bychain, a phalmwydd wedi eu cerfio bob ochr. Yr oedd cornis hefyd ar bob un o ystafelloedd ochr y deml.