1 Yna aeth y dyn â mi allan tua'r gogledd i'r cyntedd nesaf allan, ac arweiniodd fi i'r ystafelloedd oedd gyferbyn â chwrt y deml a'r adeilad tua'r gogledd.
2 Hyd yr adeilad â'i ddrws tua'r gogledd oedd can cufydd, a'i led yn hanner can cufydd.
3 Yn yr ugain cufydd oedd yn perthyn i'r cyntedd nesaf i mewn, a chyferbyn â phalmant y cyntedd nesaf allan, yr oedd orielau yn wynebu ei gilydd ar dri llawr.
4 O flaen yr ystafelloedd yr oedd llwybr caeedig, deg cufydd o led a chan cufydd o hyd. Yr oedd eu drysau tua'r gogledd.
5 Yr oedd yr ystafelloedd uchaf yn gulach, gan fod yr orielau yn tynnu mwy oddi arnynt hwy nag oddi ar yr ystafelloedd ar loriau isaf a chanol yr adeilad.
6 Nid oedd colofnau i ystafelloedd y trydydd llawr, fel yn y cynteddau, ac felly yr oedd eu lloriau'n llai na rhai'r lloriau isaf a chanol.