14 Pan fydd yr offeiriaid wedi dod i mewn i'r cysegr, nid ydynt i fynd allan i'r cyntedd nesaf allan heb adael ar ôl y gwisgoedd a oedd ganddynt wrth wasanaethu, oherwydd y maent yn sanctaidd. Y maent i wisgo dillad eraill i fynd allan lle mae'r bobl.”
15 Wedi iddo orffen mesur oddi mewn i safle'r deml, aeth â mi allan trwy'r porth oedd i gyfeiriad y dwyrain, a mesur yr hyn oedd oddi amgylch.
16 Mesurodd ochr y dwyrain â'r ffon fesur, a chael y mesur oddi amgylch yn bum can cufydd.
17 Mesurodd ochr y gogledd â'r ffon fesur, a chael y mesur oddi amgylch yn bum can cufydd.
18 Mesurodd ochr y de â'r ffon fesur, a chael y mesur yn bum can cufydd.
19 Aeth drosodd i ochr y gorllewin, a mesurodd â'r ffon fesur bum can cufydd.
20 Fe'i mesurodd ar y pedair ochr. Yr oedd mur oddi amgylch, yn bum can cufydd o hyd ac yn bum can cufydd o led, i wahanu rhwng y sanctaidd a'r cyffredin.