8 Yr oedd y rhes ystafelloedd ar yr ochr nesaf at y cyntedd allanol yn hanner can cufydd o hyd, a'r rhai ar yr ochr nesaf i'r cysegr yn gan cufydd.
9 Islaw'r ystafelloedd hyn yr oedd mynediad o du'r dwyrain, fel y deuir atynt o'r cyntedd nesaf allan,
10 lle mae'r mur allanol yn cychwyn.Tua'r de, gyferbyn â'r cwrt a chyferbyn â'r adeilad, yr oedd ystafelloedd,
11 gyda rhodfa o'u blaen. Yr oeddent yn debyg i ystafelloedd y gogledd; yr un oedd eu hyd a'u lled, a hefyd eu mynedfeydd a'u cynllun. Yr oedd drysau'r ystafelloedd yn y gogledd
12 yn debyg i ddrysau'r ystafelloedd yn y de. Ar ben y llwybr, yr oedd drws yn y mur mewnol i gyfeiriad y dwyrain, er mwyn dod i mewn.
13 Yna dywedodd wrthyf, “Y mae ystafelloedd y gogledd ac ystafelloedd y de, sy'n wynebu'r cwrt, yn ystafelloedd cysegredig, lle bydd yr offeiriaid sy'n dynesu at yr ARGLWYDD yn bwyta'r offrymau sancteiddiaf; yno y byddant yn rhoi'r offrymau sancteiddiaf, y bwydoffrwm, yr aberth dros bechod a'r aberth dros gamwedd, oherwydd lle cysegredig ydyw.
14 Pan fydd yr offeiriaid wedi dod i mewn i'r cysegr, nid ydynt i fynd allan i'r cyntedd nesaf allan heb adael ar ôl y gwisgoedd a oedd ganddynt wrth wasanaethu, oherwydd y maent yn sanctaidd. Y maent i wisgo dillad eraill i fynd allan lle mae'r bobl.”