1 Yna aeth â mi at y porth oedd yn wynebu tua'r dwyrain,
2 a gwelais ogoniant Duw Israel yn dod o'r dwyrain. Yr oedd ei lais fel sŵn llawer o ddyfroedd, ac yr oedd y ddaear yn disgleirio gan ei ogoniant.
3 Yr oedd y weledigaeth yn debyg i'r un a gefais pan ddaeth i ddinistrio'r ddinas, ac i'r un a gefais wrth afon Chebar; a syrthiais ar fy wyneb.
4 Fel yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn dod i mewn i'r deml trwy'r porth oedd yn wynebu tua'r dwyrain,
5 cododd yr ysbryd fi a mynd â mi i'r cyntedd nesaf i mewn, ac yr oedd y deml yn llawn o ogoniant yr ARGLWYDD.