19 yn aberth dros bechod byddi'n rhoi bustach ifanc i'r offeiriaid sy'n Lefiaid o deulu Sadoc, oherwydd hwy fydd yn dynesu ataf i'm gwasanaethu, medd yr Arglwydd DDUW.
20 Byddi'n cymryd o'i waed ac yn ei roi ar bedwar corn yr allor, ar bedair cornel y silff uchaf, ac ar y cantel oddi amgylch; felly byddi'n puro'r allor ac yn gwneud cymod drosti.
21 Byddi'n cymryd bustach yr aberth dros bechod ac yn ei losgi yn y lle penodol yn y deml, y tu allan i'r cysegr.
22 Ar yr ail ddiwrnod yr wyt i offrymu bwch gafr di-nam yn aberth dros bechod, a phuro'r allor, fel y purwyd hi â'r bustach.
23 Wedi iti orffen puro'r allor, yr wyt i aberthu bustach ifanc di-nam, a hwrdd di-nam o'r praidd.
24 Offryma hwy i'r ARGLWYDD, a bydded i'r offeiriaid daenellu halen drostynt a'u haberthu'n boethoffrwm i'r ARGLWYDD.
25 Am saith diwrnod tyrd â bwch gafr bob dydd yn aberth dros bechod; tyrd hefyd â bustach ifanc a hwrdd o'r praidd, y ddau yn ddi-nam.