10 Bydd y Lefiaid, a ymbellhaodd oddi wrthyf pan aeth Israel ar gyfeiliorn, a chrwydro ar ôl eu heilunod, yn gorfod dwyn eu cosb.
11 Byddant yn gwasanaethu yn fy nghysegr trwy ofalu am byrth y deml, ac yn gweini yno; byddant yn lladd y poethoffrwm a'r aberth i'r bobl, ac yn gweini ar y bobl ac yn eu gwasanaethu.
12 Ond oherwydd iddynt eu gwasanaethu o flaen eu heilunod, a gwneud i dŷ Israel syrthio i bechu, fe dyngais y bydd yn rhaid iddynt ddwyn eu cosb, medd yr Arglwydd DDUW.
13 Ni chânt ddod yn agos ataf i'm gwasanaethu fel offeiriaid, na dynesu at yr un o'm pethau sanctaidd na'm hoffrymau sancteiddiaf; rhaid iddynt ddwyn gwarth am y ffieidd-dra a wnaethant.
14 Eto rhof arnynt ddyletswydd i ofalu am y deml, i fod yn gyfrifol am yr holl wasanaeth a'r holl waith ynddi.
15 “ ‘Ond bydd yr offeiriaid sy'n Lefiaid o dylwyth Sadoc, ac a fu'n gofalu am fy nghysegr pan grwydrodd pobl Israel oddi wrthyf, yn dynesu ataf i'm gwasanaethu; byddant yn sefyll o'm blaen i offrymu'r braster a'r gwaed, medd yr Arglwydd DDUW.
16 Hwy fydd yn dod i mewn i'm cysegr, a hwy fydd yn dynesu at fy mwrdd i'm gwasanaethu'n ffyddlon.