16 Hwy fydd yn dod i mewn i'm cysegr, a hwy fydd yn dynesu at fy mwrdd i'm gwasanaethu'n ffyddlon.
17 Pan fyddant yn dod trwy byrth y cyntedd mewnol, y maent i wisgo dillad o liain; nid ydynt i roi unrhyw ddillad o wlân amdanynt pan fyddant yn gwasanaethu ym mhyrth y cyntedd mewnol neu i mewn yn y deml.
18 Byddant yn gwisgo gorchudd o liain am eu pennau, a gwregys o liain am eu llwynau; nid ydynt i wisgo dim a wna iddynt chwysu.
19 Pan fyddant yn mynd i'r cyntedd allanol, lle mae'r bobl, y maent i ddiosg y dillad a fu ganddynt yn gwasanaethu, a'u gadael yn yr ystafelloedd cysegredig; rhoddant wisgoedd eraill amdanynt, rhag i'w dillad drosglwyddo i'r bobl yr hyn sy'n sanctaidd.
20 Nid ydynt i eillio'u pennau, na gadael i'w gwallt dyfu'n hir, ond y maent i dorri eu gwalltiau.
21 Nid yw'r un offeiriad i yfed gwin pan fydd yn mynd i'r cyntedd mewnol.
22 Nid ydynt i briodi â gweddwon nac â gwragedd a ysgarwyd, ond gallant briodi gwyryfon o dylwyth tŷ Israel, neu weddwon i offeiriaid.