27 A'r diwrnod y bydd yn mynd i mewn i gyntedd mewnol y cysegr i wasanaethu, y mae i offrymu ei aberth dros bechod, medd yr Arglwydd DDUW.
28 “ ‘Ni fydd ganddynt etifeddiaeth yn Israel, ond myfi fydd eu hetifeddiaeth hwy; paid â rhoi iddynt unrhyw eiddo yn Israel, oherwydd myfi fydd eu heiddo hwy.
29 Byddant yn bwyta'r bwydoffrwm, yr aberth dros bechod a'r offrwm dros gamwedd, a'u heiddo hwy fydd pob diofryd yn Israel.
30 Eiddo'r offeiriaid hefyd fydd y gorau o'r holl flaenffrwyth ac o'ch holl offrymau arbennig. Rhowch i'r offeiriaid hefyd y gyfran gyntaf o'ch blawd mâl, er mwyn i fendith fod ar eich tai.
31 Nid yw'r offeiriaid i fwyta dim a fu farw neu a larpiwyd, boed aderyn neu anifail.