6 Dywed wrth dŷ gwrthryfelgar Israel, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyna ddigon ar dy holl ffieidd-dra, dŷ Israel!
7 Ychwanegaist at dy holl ffieidd-dra trwy ddod ag estroniaid, dienwaededig o ran calon a chnawd, i mewn i'm cysegr a'i halogi; tra oeddit ti'n offrymu bwyd, gyda'r braster a'r gwaed, yr oeddent hwy'n torri fy nghyfamod.
8 Yn lle gofalu am fy mhethau sanctaidd dy hunan, fe roddaist y cyfrifoldeb ar y bobl hyn i ofalu am fy nghysegr.
9 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Nid yw'r un estron dienwaededig o ran calon a chnawd i ddod i mewn i'm cysegr, hyd yn oed yr estroniaid sy'n byw ymhlith pobl Israel.
10 Bydd y Lefiaid, a ymbellhaodd oddi wrthyf pan aeth Israel ar gyfeiliorn, a chrwydro ar ôl eu heilunod, yn gorfod dwyn eu cosb.
11 Byddant yn gwasanaethu yn fy nghysegr trwy ofalu am byrth y deml, ac yn gweini yno; byddant yn lladd y poethoffrwm a'r aberth i'r bobl, ac yn gweini ar y bobl ac yn eu gwasanaethu.
12 Ond oherwydd iddynt eu gwasanaethu o flaen eu heilunod, a gwneud i dŷ Israel syrthio i bechu, fe dyngais y bydd yn rhaid iddynt ddwyn eu cosb, medd yr Arglwydd DDUW.