5 Bydd effa o fwydoffrwm gyda'r hwrdd, ond gyda'r ŵyn bydd yn gymaint ag a ddymuna; bydd hin o olew am bob effa.
6 Ar ddiwrnod y newydd-loer y mae i offrymu bustach ifanc, chwe oen a hwrdd, y cyfan yn ddi-nam.
7 Y mae i ddarparu effa o fwydoffrwm gyda'r bustach, effa gyda'r hwrdd, a chyda'r ŵyn gymaint ag a ddymuna; bydd hin o olew am bob effa.
8 Pan ddaw'r tywysog i mewn, y mae i ddod trwy gyntedd y porth, a mynd allan yr un ffordd.
9 “ ‘Pan fydd pobl y wlad yn dod o flaen yr ARGLWYDD ar y gwyliau penodedig, y mae'r sawl sy'n dod i mewn i addoli trwy borth y gogledd i fynd allan trwy borth y de, a'r sawl sy'n dod i mewn trwy borth y de i fynd allan trwy borth y gogledd. Ni chaiff neb ymadael trwy'r porth y daeth i mewn trwyddo, ond mynd allan trwy'r porth gyferbyn.
10 Bydd y tywysog hefyd yn eu plith, yn mynd i mewn pan ânt hwy i mewn, ac yn mynd allan pan ânt hwy allan.
11 “ ‘Ar y gwyliau a'r adegau penodedig, bydd effa o fwydoffrwm gyda bustach, effa gyda hwrdd, ond gyda'r ŵyn gymaint ag a ddymunir; bydd hin o olew am bob effa.