1 “Dyma enwau'r llwythau. Ar derfyn y gogledd, wrth ymyl ffordd Hethlon i Lebo-hamath a Hasar-enan, gyda Damascus ar derfyn y gogledd at ymyl Hamath, ac yn ymestyn o ddwyrain i orllewin, bydd Dan: un gyfran.
2 Ar derfyn Dan, o ddwyrain i orllewin, bydd Aser: un gyfran.
3 Ar derfyn Aser, o ddwyrain i orllewin, bydd Nafftali: un gyfran.
4 Ar derfyn Nafftali, o ddwyrain i orllewin, bydd Manasse: un gyfran.