17 Bydd y tir pori ar gyfer y ddinas yn ddau gan cufydd a hanner ar ochr y gogledd, dau gant a hanner ar ochr y de, dau gant a hanner ar ochr y dwyrain, a dau gant a hanner ar ochr y gorllewin.
18 Bydd y gweddill yn rhedeg yn gyfochrog â therfyn y gyfran gysegredig, a bydd o'r un hyd â hi, sef deng mil o gufyddau ar ochr y dwyrain a deng mil ar ochr y gorllewin. Bydd ei gynnyrch yn fwyd i weithwyr y ddinas.
19 O holl lwythau Israel y daw gweithwyr y ddinas a fydd yn ei drin.
20 Bydd y gyfran gyfan yn sgwâr o bum mil ar hugain o gufyddau ar bob ochr; fe'i neilltuir yn gyfran gysegredig ynghyd ag eiddo'r ddinas.
21 “Bydd y gweddill a adewir oddeutu'r gyfran gysegredig ac eiddo'r ddinas yn perthyn i'r tywysog. Bydd yn ymestyn i'r dwyrain ar un ochr, ac i'r gorllewin ar yr ochr arall i'r gyfran gysegredig o bum mil ar hugain o gufyddau; bydd yn rhedeg yn gyfochrog â chyfrannau'r llwythau, ac yn perthyn i'r tywysog; bydd y gyfran gysegredig a chysegr y deml yn y canol.
22 Felly bydd eiddo'r Lefiaid ac eiddo'r ddinas yng nghanol eiddo'r tywysog, a bydd eiddo'r tywysog rhwng terfyn Jwda a therfyn Benjamin.
23 “Dyma weddill y llwythau: yn ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin bydd Benjamin: un gyfran.