22 Felly bydd eiddo'r Lefiaid ac eiddo'r ddinas yng nghanol eiddo'r tywysog, a bydd eiddo'r tywysog rhwng terfyn Jwda a therfyn Benjamin.
23 “Dyma weddill y llwythau: yn ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin bydd Benjamin: un gyfran.
24 Ar derfyn Benjamin, o ddwyrain i orllewin, bydd Simeon: un gyfran.
25 Ar derfyn Simeon, o ddwyrain i orllewin, bydd Issachar: un gyfran.
26 Ar derfyn Issachar, o ddwyrain i orllewin, bydd Sabulon: un gyfran.
27 Ar derfyn Sabulon, o ddwyrain i orllewin, bydd Gad: un gyfran.
28 Bydd terfyn de Gad yn rhedeg o Tamar at ddyfroedd Meriba-cades, ac ar hyd yr afon at y Môr Mawr.