29 “Dyma'r tir a roddi'n etifeddiaeth i lwythau Israel, a dyma'u cyfrannau, medd yr Arglwydd DDUW.
30 “Dyma'r ffyrdd allan o'r ddinas: ar ochr y gogledd, sy'n bedair mil a hanner o gufyddau o hyd,
31 fe enwir pyrth y ddinas ar ôl llwythau Israel. Y tri phorth ar ochr y gogledd fydd porth Reuben, porth Jwda a phorth Lefi.
32 Ar ochr y dwyrain, sy'n bedair mil a hanner o gufyddau o hyd, bydd tri phorth, sef porth Joseff, porth Benjamin a phorth Dan.
33 Ar ochr y de, sy'n bedair mil a hanner o gufyddau o hyd, bydd tri phorth, sef porth Simeon, porth Issachar a phorth Sabulon.
34 Ar ochr y gorllewin, sy'n bedair mil a hanner o gufyddau o hyd, bydd tri phorth, sef porth Gad, porth Aser a phorth Nafftali.
35 Bydd y pellter o amgylch y ddinas yn ddeunaw mil o gufyddau. Ac enw'r ddinas o'r dydd hwn fydd, ‘Y mae'r ARGLWYDD yno’.”