4 Ar derfyn Nafftali, o ddwyrain i orllewin, bydd Manasse: un gyfran.
5 Ar derfyn Manasse, o ddwyrain i orllewin, bydd Effraim: un gyfran.
6 Ar derfyn Effraim, o ddwyrain i orllewin, bydd Reuben: un gyfran.
7 Ar derfyn Reuben, o ddwyrain i orllewin, bydd Jwda: un gyfran.
8 Ar derfyn Jwda, o ddwyrain i orllewin, bydd y gyfran a neilltuir yn arbennig; bydd yn bum mil ar hugain o gufyddau o led, a bydd yn ymestyn o ddwyrain i orllewin yn gyfartal â chyfran un o'r llwythau; a bydd y cysegr yn ei chanol.
9 Bydd y gyfran a neilltuir yn arbennig i'r ARGLWYDD yn bum mil ar hugain o gufyddau o hyd a deng mil o gufyddau o led.
10 Dyma fydd yn gyfran gysegredig i'r offeiriaid: cyfran pum mil ar hugain o gufyddau o hyd ar ochr y gogledd, deng mil o led ar ochr y gorllewin, deng mil o led ar ochr y dwyrain, a phum mil ar hugain o hyd ar ochr y de; ac yn y canol bydd cysegr yr ARGLWYDD.