1 “Tithau, fab dyn, cymer iti gleddyf llym a'i ddefnyddio fel ellyn barbwr i eillio dy ben a'th farf, ac yna cymer gloriannau a rhannu'r gwallt.
2 Llosga draean ohono mewn tân yng nghanol y ddinas pan ddaw dyddiau'r gwarchae i ben; cymer draean a'i daro â'r cleddyf o amgylch y ddinas; gwasgara draean i'r gwynt, ac fe'i hymlidiaf â chleddyf.
3 Cymer hefyd ychydig bach ohono a'i glymu yng ngodre dy wisg.
4 Cymer ychydig ohono eto a'i daflu i ganol tân a'i losgi; bydd tân yn lledu ohono i holl dŷ Israel.
5 “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyma Jerwsalem; fe'i gosodais yng nghanol y cenhedloedd, gyda gwledydd o'i hamgylch,