5 “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyma Jerwsalem; fe'i gosodais yng nghanol y cenhedloedd, gyda gwledydd o'i hamgylch,
6 ac y mae wedi gwrthryfela'n waeth yn erbyn fy marnau a'm deddfau na'r cenhedloedd a'r gwledydd o'i hamgylch, oherwydd y mae'r bobl wedi gwrthod fy marnau, ac nid ydynt yn dilyn fy neddfau.
7 “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Am i chwi fod yn fwy terfysglyd na'r cenhedloedd o'ch amgylch, a pheidio â dilyn fy neddfau nac ufuddhau i'm barnau, na hyd yn oed farnau'r cenhedloedd o'ch amgylch,
8 felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Edrych, yr wyf fi fy hun yn dy erbyn. Gwnaf farn â thi yng ngŵydd y cenhedloedd;
9 oherwydd dy holl ffieidd-dra gwnaf i ti yr hyn nas gwneuthum erioed ac nis gwnaf eto.
10 Am hynny, yn dy ganol di bydd rhieni yn bwyta eu plant a phlant yn bwyta eu rhieni; gwnaf farn â thi, a gwasgaraf i'r pedwar gwynt y rhai a weddillir ohonot.
11 Felly, cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, am i ti halogi fy nghysegr â'th holl bethau atgas a ffiaidd, byddaf finnau yn dy ddarostwng, ac ni fyddaf yn tosturio, nac yn trugarhau.