4 a dweud wrtho, “Dos trwy ganol y ddinas, trwy ganol Jerwsalem, a rho nod ar dalcen pob un sy'n gofidio ac yn galaru am yr holl bethau ffiaidd a wneir ynddi.”
5 A dywedodd yn fy nghlyw wrth y lleill, “Ewch trwy'r ddinas ar ei ôl ef, a lladdwch; peidiwch â thosturio na thrugarhau.
6 Lladdwch hynafgwyr, gwŷr ifainc a llancesi, gwragedd a phlant; ond peidiwch â chyffwrdd ag unrhyw un sydd â nod arno. Dechreuwch yn fy nghysegr.” A dechreuodd y dynion gyda'r henuriaid oedd o flaen y deml.
7 Yna dywedodd wrthynt, “Halogwch y deml, a llanwch y cynteddoedd â'r rhai a laddwyd; ewch allan.” Aethant allan a lladd trwy'r ddinas.
8 Tra oeddent yn lladd, a minnau wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun, syrthiais ar fy wyneb, a gwaeddais a dweud, “O Arglwydd DDUW, a ddistrywi di holl weddill Israel wrth dywallt dy lid ar Jerwsalem?”
9 Atebodd fi, “Y mae drygioni tŷ Israel a Jwda yn hynod fawr; y mae'r wlad yn llawn o dywallt gwaed, a'r ddinas yn llawn anghyfiawnder, am eu bod yn dweud, ‘Gadawodd yr ARGLWYDD y wlad; nid yw'r ARGLWYDD yn gweld.’
10 Nid wyf fi am dosturio na thrugarhau; talaf iddynt am eu ffyrdd.”