1 Geiriau Jeremeia fab Hilceia, un o'r offeiriaid oedd yn Anathoth, yn nhiriogaeth Benjamin.
2 Ato ef y daeth gair yr ARGLWYDD yn nyddiau Joseia fab Amon, brenin Jwda, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg o'i deyrnasiad.
3 Daeth hefyd yn ystod dyddiau Jehoiacim, mab Joseia brenin Jwda, a hyd ddiwedd yr un mlynedd ar ddeg o deyrnasiad Sedeceia, mab Joseia brenin Jwda, sef hyd at gaethgludiad Jerwsalem yn y pumed mis.
4 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
5 “Cyn i mi dy lunio yn y groth, fe'th adnabûm;a chyn dy eni, fe'th gysegrais;rhoddais di'n broffwyd i'r cenhedloedd.”