Jeremeia 29 BCN

Llythyr Jeremeia at yr Iddewon ym Mabilon

1 Dyma eiriau'r llythyr a anfonodd y proffwyd Jeremeia o Jerwsalem at weddill yr henuriaid yn y gaethglud, a'r offeiriaid a'r proffwydi, ac at yr holl bobl a gaethgludodd Nebuchadnesar o Jerwsalem i Fabilon.

2 Bu hyn wedi i'r Brenin Jechoneia, a'r fam frenhines a'r eunuchiaid, swyddogion Jwda a Jerwsalem, a'r seiri a'r gofaint, adael Jerwsalem.

3 Anfonodd y llythyr trwy law Elasa fab Saffan a Gemareia fab Hilceia, a anfonwyd gan Sedeceia brenin Jwda i Fabilon at Nebuchadnesar brenin Babilon.

4 Dyma ei eiriau: “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘At yr holl gaethglud a gaethgludais o Jerwsalem i Fabilon.

5 Codwch dai a thrigwch ynddynt; plannwch erddi a bwyta o'u ffrwyth;

6 priodwch wragedd, a magu meibion a merched; cymerwch wragedd i'ch meibion a rhoi gwŷr i'ch merched, i fagu meibion a merched; amlhewch yno, ac nid lleihau.

7 Ceisiwch heddwch y ddinas y caethgludais chwi iddi, a gweddïwch drosti ar yr ARGLWYDD, oherwydd yn ei heddwch hi y bydd heddwch i chwi.’

8 “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Peidiwch â chymryd eich twyllo gan eich proffwydi sydd yn eich mysg, na'ch dewiniaid, a pheidiwch â gwrando ar y breuddwydion a freuddwydiant.

9 Proffwydant i chwi gelwydd yn f'enw i; nid anfonais hwy,’ medd yr ARGLWYDD.

10 “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Pan gyflawnir deng mlynedd a thrigain i Fabilon, ymwelaf â chwi a chyflawni fy mwriad daionus tuag atoch, i'ch adfer i'r lle hwn.

11 Oherwydd myfi sy'n gwybod fy mwriadau a drefnaf ar eich cyfer,’ medd yr ARGLWYDD, ‘bwriadau o heddwch, nid niwed, i roi ichwi ddyfodol gobeithiol.

12 Yna galwch arnaf, a dewch i weddïo arnaf, a gwrandawaf arnoch.

13 Fe'm ceisiwch a'm cael; pan chwiliwch â'ch holl galon

14 fe'm cewch,’ medd yr ARGLWYDD, ‘ac adferaf ichwi lwyddiant, a'ch casglu o blith yr holl genhedloedd, ac o'r holl leoedd y gyrrais chwi iddynt,’ medd yr ARGLWYDD; ‘ac fe'ch dychwelaf i'r lle y caethgludwyd chwi ohono.’

15 “Yr ydych yn dweud, ‘Cododd yr ARGLWYDD broffwydi i ni draw ym Mabilon.’

16 Ond dywed yr ARGLWYDD fel hyn am y brenin sy'n eistedd ar orsedd Dafydd, ac am yr holl bobl sy'n trigo yn y ddinas hon, a'r rhai nad aethant gyda chwi i'r gaethglud;

17 ie, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Dyma fi'n anfon arnynt y cleddyf a newyn a haint; a gwnaf hwy fel ffigys drwg, na ellir eu bwyta gan mor ddrwg ydynt.

18 Ymlidiaf hwy â'r cleddyf a newyn a haint, a gwnaf hwy'n arswyd i holl deyrnasoedd y ddaear, yn felltith ac arswyd a syndod a chywilydd ymhlith yr holl genhedloedd y gyrraf hwy atynt.

19 Megis na wrandawsant ar fy ngeiriau, a anfonais atynt yn gyson trwy fy ngweision y proffwydi,’ medd yr ARGLWYDD, ‘felly ni wrandawsoch chwithau,’ medd yr ARGLWYDD.

20 ‘Ond yn awr gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi yr holl gaethglud a yrrais o Jerwsalem i Fabilon.’

21 “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, am Ahab fab Colaia, ac am Sedeceia fab Maaseia, sy'n proffwydo i chwi gelwydd yn fy enw i: ‘Dyma fi'n eu rhoi yn llaw Nebuchadnesar brenin Babilon, a bydd ef yn eu lladd yn eich gŵydd chwi.

22 Ac o'u hachos hwy fe gyfyd ymhlith holl gaethglud Jwda ym Mabilon y ffurf hon o felltith: “Boed i'r ARGLWYDD dy drin di fel Sedeceia ac fel Ahab, y rhai a rostiodd brenin Babilon yn y tân.”

23 Oherwydd gwnaethant yn ysgeler yn Israel, gan odinebu â gwragedd eu cymdogion, a dweud yn f'enw i gelwydd nas gorchmynnais iddynt. Myfi sy'n gwybod, ac yn tystio,’ medd yr ARGLWYDD.”

Llythyr Semaia

24 “Wrth Semaia y Nehelamiad fe ddywedi,

25 ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Anfonaist lythyrau yn d'enw dy hun at holl bobl Jerwsalem, ac at yr offeiriad Seffaneia fab Maaseia ac at yr holl offeiriaid, gan ddweud:

26 Gosododd yr ARGLWYDD di yn offeiriad yn lle Jehoiada'r offeiriad, i arolygu yn nhŷ'r ARGLWYDD ar bob gŵr gorffwyll sy'n proffwydo, a'i osod mewn cyffion a rhigod.

27 Yn awr pam na cheryddaist Jeremeia o Anathoth, sy'n proffwydo i chwi?

28 Oherwydd anfonodd ef atom i Fabilon a dweud: Bydd y gaethglud hon yn hir; codwch dai a thrigwch ynddynt, a phlannwch erddi a bwyta'u ffrwyth.’ ”

29 Ac yr oedd yr offeiriad Seffaneia wedi darllen y llythyr hwn yng nghlyw y proffwyd Jeremeia.

30 A daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud,

31 “Anfon at yr holl gaethglud a dweud, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth Semaia y Nehelamiad: Oherwydd i Semaia broffwydo i chwi, a minnau heb ei anfon, a pheri ichwi ymddiried mewn celwydd—

32 am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma fi'n ymweld â Semaia y Nehelamiad, ac â'i hil. Ni adewir yr un o'i eiddo ymhlith y bobl hyn, ac ni wêl y daioni yr wyf fi am ei roi i'm pobl, medd yr ARGLWYDD, oherwydd dysgodd wrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD.’ ”