1 Yr oedd Pasur fab Immer, yr offeiriad, yn brif swyddog yn nhŷ'r ARGLWYDD, a phan glywodd fod Jeremeia yn proffwydo'r geiriau hyn,
2 trawodd Pasur y proffwyd Jeremeia, a'i roi yn y cyffion ym mhorth uchaf Benjamin yn nhŷ'r ARGLWYDD.
3 Trannoeth, pan ollyngodd Pasur ef o'r cyffion, dywedodd Jeremeia wrtho, “Nid Pasur y galwodd yr ARGLWYDD di ond Dychryn-ar-bob-llaw.
4 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Wele fi'n dy wneud yn ddychryn i ti dy hun ac i bawb o'th geraint. Syrthiant wrth gleddyf eu gelynion, a thithau'n gweld. Rhof hefyd holl Jwda yng ngafael brenin Babilon, i'w caethgludo i Fabilon a'u taro â'r cleddyf.
5 Rhof hefyd olud y ddinas hon, a'i holl gynnyrch, a phob dim gwerthfawr sydd ganddi, a holl drysorau brenhinoedd Jwda, yng ngafael eu gelynion, i'w hanrheithio a'u meddiannu a'u cludo i Fabilon.
6 A byddi di, Pasur, a holl breswylwyr dy dŷ, yn mynd i gaethiwed; i Fabilon yr ei, ac yno y byddi farw, a'th gladdu—ti a'th holl gyfeillion y proffwydaist gelwydd iddynt.’ ”
7 Twyllaist fi, O ARGLWYDD, ac fe'm twyllwyd.Cryfach oeddit na mi, a gorchfygaist fi.Cyff gwawd wyf ar hyd y dydd,a phawb yn fy ngwatwar.
8 Bob tro y llefaraf ac y gwaeddaf,“Trais! Anrhaith!” yw fy llef.Canys y mae gair yr ARGLWYDD i miyn waradwydd ac yn ddirmyg ar hyd y dydd.
9 Os dywedaf, “Ni soniaf amdano,ac ni lefaraf mwyach yn ei enw”,y mae yn fy nghalon yn llosgi fel tânwedi ei gau o fewn fy esgyrn.Blinaf yn ymatal; yn wir, ni allaf.
10 Clywais sibrwd gan lawer—dychryn-ar-bob-llaw:“Cyhuddwch ef! Fe'i cyhuddwn ni ef!”Y mae pawb a fu'n heddychlon â miyn gwylio am gam gwag gennyf, ac yn dweud,“Efallai yr hudir ef, ac fe'i gorchfygwn, a dial arno.”
11 Ond y mae'r ARGLWYDD gyda mi,fel rhyfelwr cadarn;am hynny fe dramgwydda'r rhai sy'n fy erlid,ac ni orchfygant;gwaradwyddir hwy'n fawr, canys ni lwyddant,ac nid anghofir fyth eu gwarth.
12 O ARGLWYDD y Lluoedd, yr wyt yn profi'r cyfiawn,ac yn gweld y galon a'r meddwl;rho imi weld dy ddialedd arnynt,canys dadlennais i ti fy nghwyn.
13 Canwch i'r ARGLWYDD. Moliannwch yr ARGLWYDD.Achubodd einioes y tlawd o afael y rhai drygionus.
14 Melltith ar y dydd y'm ganwyd;na fendiger y dydd yr esgorodd fy mam arnaf.
15 Melltith ar y gŵr aeth â'r neges i'm tad,“Ganwyd mab i ti”,a rhoi llawenydd mawr iddo.
16 Bydded y gŵr hwnnw fel y dinasoedda ddymchwelodd yr ARGLWYDD yn ddiarbed.Bydded iddo glywed gwaedd yn y bore,a bloedd am hanner dydd,
17 oherwydd na laddwyd mohonof yn y groth,ac na fu fy mam yn fedd i mi,a'i chroth yn feichiog arnaf byth.
18 Pam y deuthum allan o'r groth,i weld trafferth a gofid,a threulio fy nyddiau mewn gwarth?