1 Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD pan oedd Nebuchadnesar brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem a'i holl faestrefi, gyda'i holl lu a holl deyrnasoedd y byd oedd dan ei lywodraeth, a'r holl bobloedd.
2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: “Dos a llefara wrth Sedeceia brenin Jwda, a dweud wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf yn rhoi'r ddinas hon yng ngafael brenin Babilon, a bydd ef yn ei llosgi â thân.
3 Ac ni ddihengi dithau o'i afael, ond yr wyt yn sicr o gael dy ddal, a'th roi yn ei afael; byddi'n edrych arno lygad yn llygad, ac yntau'n ymddiddan â thi wyneb yn wyneb, a byddi'n mynd i Fabilon.
4 Ond clyw air yr ARGLWYDD, Sedeceia brenin Jwda. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD amdanat: Ni fyddi farw drwy'r cleddyf.
5 Mewn hedd y byddi farw, ac fel y llosgwyd peraroglau i'th ragflaenwyr, y brenhinoedd gynt a fu o'th flaen, felly y llosgir hwy i ti; a bydd galar amdanat fel eu harglwydd. Dyma'r gair a leferais i,’ ” medd yr ARGLWYDD.
6 Llefarodd y proffwyd Jeremeia yr holl eiriau hyn yn Jerwsalem wrth Sedeceia brenin Jwda,
7 pan oedd llu brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda oedd yn weddill, sef Lachis ac Aseca; oherwydd hwy oedd yr unig ddinasoedd caerog a adawyd o blith dinasoedd Jwda.
8 Daeth gair at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, wedi i'r Brenin Sedeceia wneud cyfamod â'r holl bobl yn Jerwsalem i gyhoeddi rhyddhad,
9 sef bod pob un i ollwng ei gaethion o Hebreaid yn rhydd, boed wryw neu fenyw, rhag bod neb yn cadw Iddew arall yn gaeth.
10 Cytunodd pob un o'r tywysogion, a'r bobl a dderbyniodd y cyfamod, i ryddhau ei gaethwas a'i gaethferch, rhag iddynt fod yn gaeth mwyach; ac ar ôl cytuno, gollyngasant hwy yn rhydd.
11 Ond wedi hynny bu edifar ganddynt, a dygasant yn ôl y gweision a'r morynion a ollyngwyd yn rhydd, a'u caethiwo eilwaith.
12 A dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD:
13 “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Gwneuthum gyfamod â'ch hynafiaid, y dydd y dygais hwy o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed, a dweud,
14 “Cyn pen saith mlynedd yr ydych i ollwng yn rhydd bob un ei frawd o Hebrëwr a werthwyd iddo ac a'i gwasanaethodd am chwe blynedd, a'i ollwng yn rhydd oddi wrtho.” Ond ni wrandawodd eich hynafiaid arnaf, na rhoi clust.
15 A heddiw bu edifar gennych chwi, a gwnaethoch yr hyn sydd uniawn yn fy ngolwg trwy gyhoeddi bod pob un i ryddhau ei gymydog, a gwneud cyfamod ger fy mron yn y tŷ y galwyd fy enw arno.
16 Ond wedyn bu edifar gennych am hyn, a halogasoch fy enw trwy i bob un ddwyn yn ôl ei was a'i forwyn y dymunai eu gollwng yn rhydd, a'u caethiwo eilwaith.
17 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Ni wrandawsoch arnaf fi i gyhoeddi diwrnod rhyddhad i'ch gilydd, yn berthnasau a chymdogion; yn awr dyma fi'n cyhoeddi diwrnod rhyddhad i'r cleddyf a haint a newyn!’ medd yr ARGLWYDD. ‘Fe'ch gwnaf yn arswyd i holl deyrnasoedd y ddaear.
18 A'r rhai a dorrodd fy nghyfamod, heb gyflawni'r amodau a wnaethant yn fy ngŵydd, gwnaf hwy fel y llo a holltwyd yn ddau er mwyn iddynt gerdded rhwng y ddwy ran.
19 Am dywysogion Jwda a thywysogion Jerwsalem, y gweinyddwyr a'r offeiriaid a holl bobl y wlad a gerddodd rhwng dwy ran y llo a holltwyd,
20 fe'u rhof yn llaw eu gelynion ac yn llaw y rhai sy'n ceisio'u heinioes; bydd eu celanedd yn fwyd i adar y nefoedd ac i anifeiliaid gwyllt.
21 Rhof Sedeceia brenin Jwda, a'i holl dywysogion, yn llaw eu gelynion a'r rhai sy'n ceisio'u heinioes, ac yn llaw llu brenin Babilon sydd yn awr yn cilio oddi wrthych.
22 Dyma fi'n gorchymyn,’ medd yr ARGLWYDD, ‘iddynt droi'n ôl at y ddinas hon ac ymladd yn ei herbyn; byddant yn ei goresgyn ac yn ei llosgi â thân; ie, gwnaf ddinasoedd Jwda yn anghyfannedd, heb breswylydd ynddynt.’ ”