Jeremeia 18 BCN

Jeremeia yn Nhŷ'r Crochenydd

1 Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD:

2 “Cod a dos i lawr i dŷ'r crochenydd; yno y paraf i ti glywed fy ngeiriau.”

3 Euthum i lawr i dŷ'r crochenydd, a'i gael yn gweithio ar y droell.

4 A difwynwyd yn llaw'r crochenydd y llestr pridd yr oedd yn ei lunio, a gwnaeth ef yr eildro yn llestr gwahanol, fel y gwelai'n dda.

5 Yna daeth gair yr ARGLWYDD ataf,

6 “Oni allaf fi eich trafod chwi, tŷ Israel, fel y mae'r crochenydd hwn yn ei wneud â'r clai?” medd yr ARGLWYDD. “Fel clai yn llaw'r crochenydd, felly yr ydych chwi yn fy llaw i, tŷ Israel.

7 Ar unrhyw funud gallaf benderfynu diwreiddio a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu deyrnas.

8 Ac os bydd y genedl honno y lleferais yn ei herbyn yn troi oddi wrth ei drygioni, gallaf ailfeddwl am y drwg a fwriedais iddi.

9 Ar unrhyw funud gallaf benderfynu adeiladu a phlannu cenedl neu deyrnas,

10 ond os gwna'r genedl honno ddrygioni yn fy ngolwg, a gwrthod gwrando arnaf, gallaf ailfeddwl am y da a addewais iddi.

11 Yn awr dywed wrth bobl Jwda ac wrth breswylwyr Jerwsalem, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Wele fi'n llunio drwg yn eich erbyn, ac yn cynllunio yn eich erbyn. Dychwelwch, yn wir, bob un o'i ffordd ddrwg, a gwella'ch ffyrdd a'ch gweithredoedd.’

12 Ond dywedant hwy, ‘Y mae pethau wedi mynd yn rhy bell. Dilynwn ein bwriadau ein hunain, a gweithredwn bob un yn ôl ystyfnigrwydd ei galon ddrygionus.’ ”

13 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Ymofynnwch ymhlith y cenhedloedd,pwy a glywodd ddim tebyg i hyn.Gwnaeth y forwyn Israel beth erchyll iawn.

14 A gilia eira Lebanon oddi ar greigiau'r llethrau?A sychir dyfroedd yr ucheldir,sy'n ffrydiau oerion?

15 Ond mae fy mhobl wedi f'anghofio,ac wedi arogldarthu i dduwiau gaua barodd iddynt dramgwyddo yn eu ffyrdd, yr hen rodfeydd,a cherdded llwybrau mewn ffyrdd heb eu trin.

16 Gwnaethant eu tir yn anghyfannedd,i rai chwibanu drosto hyd byth;bydd pob un sy'n mynd heibio iddo yn synnu,ac yn ysgwyd ei ben.

17 Fel gwynt y dwyrain y chwalaf hwy o flaen y gelyn;yn nydd eu trychineb dangosaf iddynt fy ngwegil, nid fy wyneb.”

Cynllwyn yn erbyn Jeremeia

18 A dywedodd y bobl, “Dewch, gwnawn gynllwyn yn erbyn Jeremeia; ni chiliodd cyfarwyddyd oddi wrth yr offeiriad, na chyngor oddi wrth y doeth, na gair oddi wrth y proffwyd; dewch, gadewch inni ei faeddu â'r tafod, a pheidio ag ystyried yr un o'i eiriau.”

19 Ystyria fi, O ARGLWYDD,a chlyw beth y mae f'achwynwyr yn ei ddweud.

20 A ad-delir drwg am dda?Cloddiasant bwll ar fy nghyfer.Cofia imi sefyll o'th flaen,i lefaru'n dda amdanyntac i droi ymaith dy ddig oddi wrthynt.

21 Am hynny rho'u plant i'r newyn,lladder hwy trwy rym y cleddyf;bydded eu gwragedd yn weddwon di-blant,a'u gwŷr yn farw gelain,a'u gwŷr ifainc wedi eu taro â'r cleddyf mewn rhyfel.

22 Bydded i waedd godi o'u tai,am i'r ysbeiliwr ddod yn ddisymwth ar eu gwarthaf;canys cloddiasant bwll i'm dal,a chuddio maglau i'm traed.

23 Ond yr wyt ti, O ARGLWYDD, yn gwybodam eu holl gynllwyn yn f'erbyn, i'm lladd.Paid â maddau iddynt eu camwedd,na dileu eu pechod o'th ŵydd.Bydded iddynt faglu o'th flaen;delia â hwy yn awr dy ddigofaint.