Jeremeia 32 BCN

Jeremeia'n Prynu Maes

1 Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD yn negfed flwyddyn Sedeceia brenin Jwda, a deunawfed flwyddyn Nebuchadnesar.

2 Y pryd hwnnw yr oedd llu brenin Babilon yn gwarchae ar Jerwsalem, a'r proffwyd Jeremeia wedi ei garcharu yng nghyntedd y gwarchodlu yn llys brenin Jwda.

3 Oherwydd yr oedd Sedeceia brenin Jwda wedi ei garcharu, a dweud, “Pam yr wyt yn proffwydo, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma fi'n rhoi'r ddinas hon yng ngafael brenin Babilon, a bydd ef yn ei chymryd;

4 ac ni ddihanga Sedeceia brenin Jwda o afael y Caldeaid, ond fe'i rhoir yn gyfan gwbl yng ngafael brenin Babilon; a bydd yn ymddiddan ag ef wyneb yn wyneb, ac yn edrych arno lygad yn llygad.

5 Bydd yntau'n mynd â Sedeceia i Fabilon, ac yno yr erys nes imi ymweld ag ef,’ medd yr ARGLWYDD. ‘Er ichwi ymladd yn erbyn y Caldeaid, ni chewch lwyddiant’?”

6 Yna dywedodd Jeremeia, “Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

7 ‘Fe ddaw Hanamel, mab dy ewythr Salum, atat a dweud, “Pryn fy maes yn Anathoth, oherwydd gennyt ti y mae hawl perthynas agosaf i'w brynu.” ’

8 A daeth Hanamel, fy nghefnder, ataf i gyntedd y gwarchodlu, yn ôl gair yr ARGLWYDD, a dweud wrthyf, ‘Pryn, yn awr, fy maes yn Anathoth, yn nhir Benjamin, oherwydd gennyt ti y mae'r hawl i etifeddu a'r hawl i brynu; pryn ef iti.’ Gwyddwn wrth hyn mai gair yr ARGLWYDD ydoedd.

9 Yna prynais y maes yn Anathoth gan fy nghefnder Hanamel, a phwysais iddo yr arian, dau sicl ar bymtheg.

10 Arwyddais y gweithredoedd, a'u selio a chymryd tystion, a phwyso'r arian mewn cloriannau.

11 Yna cymerais weithredoedd y pryniant, yr un a seliwyd yn ôl deddf a defod, a'r copi agored,

12 a rhois weithredoedd y pryniant i Baruch fab Nereia, fab Maaseia, yng ngŵydd Hanamel fy nghefnder, ac yng ngŵydd y tystion a arwyddodd weithredoedd y pryniant, ac yng ngŵydd yr holl Iddewon oedd yn eistedd yng nghyntedd y gwarchodlu.

13 Gorchmynnais i Baruch yn eu gŵydd hwy,

14 ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Cymer y gweithredoedd hyn, gweithredoedd y pryniant hwn, yr un a seliwyd a'r un agored, a'u dodi mewn llestr pridd, iddynt barhau dros gyfnod hir.’

15 Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, ‘Prynir eto dai a meysydd a gwinllannoedd yn y tir hwn.’

Gweddi Jeremeia

16 “Wedi imi roi gweithredoedd y pryniant i Baruch fab Nereia, gweddïais ar yr ARGLWYDD fel hyn:

17 ‘O ARGLWYDD Dduw, gwnaethost y nefoedd a'r ddaear â'th fawr allu a'th fraich estynedig; nid oes dim yn amhosibl i ti.

18 Yr wyt yn ffyddlon i filoedd, yn ad-dalu drygioni'r rhieni i'w plant ar eu hôl; Duw mawr, yr Un cadarn, ARGLWYDD y Lluoedd yw dy enw,

19 mawr yn dy gyngor, nerthol yn dy weithred. Y mae dy lygaid ar holl ffyrdd rhai meidrol, i dalu i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd.

20 Gwnaethost arwyddion a rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft, a hyd y dydd hwn yn Israel ac ymhlith pobloedd; gwnaethost i ti'r enw sydd gennyt heddiw.

21 Daethost â'th bobl Israel allan o dir yr Aifft ag arwyddion a rhyfeddodau, ac â llaw gref a braich estynedig, a dychryn mawr;

22 rhoist iddynt y wlad hon, y tyngaist wrth eu hynafiaid i'w rhoi iddynt, yn wlad yn llifeirio o laeth a mêl.

23 Daethant hwy a'i meddiannu, ond ni fuont yn ufudd i'th lais, na rhodio yn dy gyfraith. Ni wnaethant ddim oll o'r hyn a orchmynnaist iddynt, a pheraist tithau i'r holl niwed hwn ddigwydd iddynt.

24 Y mae'r cloddiau gwarchae wedi cyrraedd at y ddinas i'w goresgyn; trwy'r cleddyf a newyn a haint rhoir y ddinas yng ngafael y Caldeaid sy'n ymladd yn ei herbyn. Y mae'r hyn a ddywedaist wedi digwydd, fel y gweli.

25 Ac yr wyt ti, O ARGLWYDD Dduw, wedi dweud wrthyf, “Pryn y maes ag arian a chymer dystion”, er bod y ddinas i'w rhoi yng ngafael y Caldeaid.’ ”

26 Daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud,

27 “Myfi yw'r ARGLWYDD, Duw pob cnawd. A oes dim yn rhy ryfeddol i mi?

28 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Yr wyf yn rhoi'r ddinas hon yng ngafael y Caldeaid ac yn llaw Nebuchadnesar brenin Babilon, a bydd ef yn ei chymryd.

29 A daw'r Caldeaid i ymladd yn erbyn y ddinas hon, a'i rhoi ar dân, a'i llosgi ynghyd â'r tai y buont ar eu toeau yn arogldarthu i Baal, ac yn tywallt diodoffrwm i dduwiau eraill, i'm digio i.

30 Oblegid o'u mebyd ni wnaeth pobl Israel a Jwda ddim ond yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg; ni wnaeth pobl Israel ddim ond fy nigio â gwaith eu dwylo,’ medd yr ARGLWYDD.

31 ‘Oherwydd enynnodd y ddinas hon fy nigofaint a'm llid o'r dydd yr adeiladwyd hi hyd heddiw; symudaf hi o'm gŵydd,

32 o achos yr holl ddrygioni a wnaeth pobl Israel a phobl Jwda i'm digio—hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, eu hoffeiriaid, eu proffwydi, pobl Jwda a phreswylwyr Jerwsalem.

33 Troesant wegil tuag ataf, ac nid wyneb; dysgais hwy yn gyson a thaer, ond ni fynnent wrando na derbyn gwers.

34 Rhoesant eu ffieidd-dra yn y tŷ a alwyd ar fy enw, a'i halogi.

35 Codasant uchelfeydd i Baal yn nyffryn Ben-hinnom, i aberthu eu meibion a'u merched i Moloch; ni orchmynnais hyn iddynt, ac ni ddaeth i'm meddwl iddynt wneud y fath ffieidd-dra, i beri i Jwda bechu.’

Addo Gobaith

36 “Yn awr, gan hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, wrth y ddinas hon, y dywedwch y rhoir hi yng ngafael brenin Babilon trwy'r cleddyf a newyn a haint:

37 ‘Casglaf hwy o'r holl wledydd y gyrrais hwy iddynt yn fy nig a'm llid a'm soriant mawr, a dychwelaf hwy i'r lle hwn, a gwnaf iddynt breswylio'n ddiogel.

38 Byddant yn bobl i mi, a minnau'n Dduw iddynt hwy.

39 A rhof iddynt un meddwl ac un ffordd, i'm hofni bob amser, er lles iddynt ac i'w plant ar eu hôl.

40 Gwnaf â hwy gyfamod tragwyddol, ac ni throf ef ymaith oddi wrthynt, ond gwneud yn dda iddynt; rhof fy ofn yn eu calon, rhag iddynt gilio oddi wrthyf.

41 Fy llawenydd fydd gwneud yn dda iddynt; yn wir â'm holl galon ac â'm holl enaid fe'u plannaf yn y tir hwn.’

42 “Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Megis y dygais ar y bobl hyn yr holl ddrwg mawr hwn, felly y dygaf arnynt yr holl ddaioni a addawaf iddynt.

43 Fe brynir meysydd yn y wlad hon y dywedwch amdani, “Anghyfannedd yw, heb ddyn nac anifail, ac wedi ei rhoi yng ngafael y Caldeaid.”

44 Prynant feysydd am arian, ac arwyddo'r gweithredoedd, a'u selio a chael tystion, yn nhiriogaeth Benjamin, o amgylch Jerwsalem, yn ninasoedd Jwda, yn ninasoedd y mynydd-dir, yn ninasoedd y Seffela ac yn ninasoedd y Negef. Mi a adferaf eu llwyddiant,’ medd yr ARGLWYDD.”